Y Gymdeithas

Sefydlwyd Cymdeithas Cymru-Llydaw ar faes Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974.

Cymdeithas nid-er-elw yw Cymdeithas Cymru-Llydaw, sy’n dibynnu ar ei haelodau er mwyn cynnal ei gwaith.

Amcanion y Gymdeithas yw:

  • gweithio dros y Llydaweg a thros y Gymraeg drwy eu defnyddio.
  • rhoi gwybod i’r aelodau beth sy’n digwydd yn Llydaw.
  • astudio’r Llydaweg a diwylliant Llydaw.
  • cryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw, yn enwedig er lles ein hieithoedd Celtaidd.
  • cynorthwyo’r Cymry sy’n awyddus i ddysgu Llydaweg.
  • tynnu sylw at y frwydr dros ieithoedd eraill, ieithoedd bychain, rhai heb nemor ddim grym gwleidyddol a rhai sydd wedi dod yn ieithoedd lleiafrifol.

Mae’r Gymdeithas yn cael ei chynnal gan y swyddogion a’r pwyllgor.